-
Hwyl yn y dwnjwn
Mae Hwyl yn y dwnjwn yn llyfr stori am hawl plant i chwarae.
Mae’r llyfr ar gyfer plant a rhieni, gan alluogi plant i fod yn eiriolwyr fel dalwyr hawliau a rhieni i eiriol dros chwarae’n lleol. Bydd y llyfr stori hefyd yn adnodd defnyddiol i gefnogi gweithwyr proffesiynol yn eu gwaith gyda phlant a theuluoedd.
Gweithiodd Chwarae Cymru gyda storïwr, cartwnydd, plant a’u rhieni yn Ysgol Gynradd Mount Stuart i ddatlbygu’r llyfr stori. Cefnogodd y storïwr gr?p o blant a rhieni trwy gyfres o weithdai, gan ddynodi problemau a dathliadau sy’n gysylltiedig â chwarae. Trwy’r gweithdai, crëwyd geiriau a delweddau i adrodd y stori, gyda’r plant yn darparu darluniau ysbrydoledig o ddelweddau chwareus wnaeth helpu ein cartwnydd i ddod â’r stori’n fyw.
Mae Hwyl yn y Dwnjwn yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru.
Mae'r llyfr stori nawr ar gael ar-lein i bawb allu ei ddarllen. Gallwch ddarllen am ddim a bydd ar gael am gyfnod cyfyngedig yn unig. Rydym wedi gwneud Hwyl yn y dwnjwn ar gael ar-lein er mwyn caniatáu mwy o blant a’u teuluoedd yng Nghymru, a thu hwnt, i’w fwynhau. Mae hyn yn rhan o’n cefnogaeth mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws.
Darllenwch Hwyl yn y dwnjwn
Rydym wedi datblygu Pecyn sesiwn darllen stori i gyd-fynd â’n llyfr stori Hwyl yn yr dwnjwn. Mae’r adnodd, sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim, yn cynnig syniadau am ffyrdd i ddefnyddio’r llyfr stori i drafod chwarae gyda phlant a phlant yn eu harddegau.
Diolch i ariannu gan raglen Arian i Bawb Y Loteri Genedlaethol llwyddodd Chwarae Cymru i weithio gyda Petra Publishing, cyhoeddwr cymunedol hirsefydlog, i’n helpu i ddatblygu a chyhoeddi llyfr stori.