Gwaith chwarae - beth sydd mor arbennig?
Aelodau £0 | Ddim yn aelod £0
Dyddiad: 09-07-2022 | Lleoliad: The Willows Centre, Troedyrhiw, Merthyr Tudful |
Trefnydd: Chwarae Cymru gyda |

10:00am - 1:00pm
Mae plant yn dal i ddweud wrthym fod chwarae’n bwysig iddyn nhw - maen nhw’n gwerthfawrogi cael mannau i chwarae a threulio amser yn ymlacio gyda’u ffrindiau. Mae darparu cyfleoedd i chwarae’n bwysig yn ein hymateb i'r pandemig coronafeirws.
Mae angen inni greu cyfleoedd a mannau ble gall plant chwarae’n rhydd a ble y gallant fwynhau ystod eang o gyfleoedd a phosibiliadau. Mae’n bwysig bod oedolion sy’n rhan o’r broses hon yn deall natur a phwysigrwydd pob agwedd o chwarae plant a’u bod yn gweithio i’w gefnogi.
Bydd y digwyddiad yn cynnig cyfleoedd i:
- diweddaru gwybodaeth cyfranogwyr am yr Egwyddorion Gwaith Chwarae
- dysgu mwy am hyfforddiant ac addysg gwaith chwarae
- archwilio a rhannu syniadau ymarferol er mwyn darparu cyfleoedd chwarae i blant.
Mae hon yn seminar partneriaeth, a drosglwyddir gan Chwarae Cymru gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ar gyfer gweithwyr chwarae a darparwyr chwarae sy’n gweithio ar draws sir Merthyr Tudful. Bydd cyfranogwyr sy’n mynychu’r seminar yn derbyn casgliad o adnoddau ymarferol i’w defnyddio yn eu lleoliadau.