Hawliau Plant a Chyfranogiad ar gyfer Pobl Ifanc 11-25 oed
Aelodau £0 | Ddim yn aelod £0
Dyddiad: 23-08-2022 | Lleoliad: Ar-lein |
Trefnydd: Plant yng Nghymru |
9:30am – 4:00pm
Pwrpas y cwrs hwn yw i ddarparu sylfaen gadarn i fynychwyr mewn theori ac ymarfer, gan magu technegau ymarferol i gynyddu cyfranogiad pobl ifanc yn eu gwaith. Mae hyn yn cynnwys cyfranogiad sefydliadol.
Mae’r hyfforddiant hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi’i anelu at sefydliadau llai sy’n gweithio’n bennaf gyda phlant oedran uwchradd iau hyd at oedolion ifanc.
Amcanion dysgu:
- Ennill dealltwriaeth o hawliau a chyfranogiad pobl ifanc
- Beth mae cyfranogiad yn ei olygu i bobl ifanc o wahanol oedrannau
- Meddu ar ddealltwriaeth o’r fframwaith deddfwriaethol
- Ennill sgiliau ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc
- Archwilio’r rhwystrau i gyfranogiad ac atebion posibl
- Deall sut i sefydlu a rhedeg fforwm ieuenctid
- Datblygu cynllun gweithredu sefydliadol.