Blynyddoedd Cynnar a Hawliau Plant
Aelodau £0 | Ddim yn aelod £0
Dyddiad: 18-10-2022 | Lleoliad: Ar-lein |
Trefnydd: Plant yng Nghymru |
9:30am – 1:00pm
Mae’r cwrs hyfforddi hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi’i anelu at ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant o dan saith oed neu gyda'u teuluoedd mewn ystod o leoliadau gan gynnwys gofal plant, cymorth i deuluoedd, gwaith chwarae, awyr agored a gweithgareddau celfyddydol.
Bydd mynychwyr yn cael cyfle i archwilio ystyr gwaith sy'n canolbwyntio ar y plentyn yn ymarferol. Bydd y sesiwn yn galluogi pobl i ddeall o ble mae hawliau plant yn dod, sut maen nhw'n effeithio ar wahanol feysydd gwaith, a'r prosesau polisi a chyfreithiol sy'n cefnogi gweithredu hawliau plant.
Nodau:
- Deall beth yw'r Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) a sut mae'n cael ei weithredu yng Nghymru
- Cael trosolwg o gyd-destun a phrosesau gwleidyddol y blynyddoedd cynnar yng Nghymru
- Nodi'r ysgogwyr polisi a'r blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer y blynyddoedd cynnar
- Deall sut mae meysydd gwaith allweddol yn eich sefydliad yn ffitio i'r prif feysydd polisi sy'n ymwneud â'r blynyddoedd cynnar
- Deall sut mae llais plentyn yn cael ei glywed yn y blynyddoedd cynnar.