Cyflwyniad i ddiogelu yn y sector gwirfoddol
Aelodau £50 | Ddim yn aelod £72
Dyddiad: 05-07-2022 | Lleoliad: Ar-lein |
Trefnydd: CGGC (WCVA) |
9:30am – 12:30pm
Nod yr hyfforddiant yw i roi cyfle i fynychwyr i gael gwybod am y prif feysydd diogelu ac arferion da ar gyfer mudiadau’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Canlyniadau dysgu:
Erbyn diwedd y cwrs bydd cyfranogwyr:
- gyda mwy o ddealltwriaeth o’r hyn a olygir wrth ddiogelu a sut mae’n berthnasol i’w rôl
- gyda mwy o ymwybyddiaeth o’r polisi ac arferion diogelu disgwyliedig ar gyfer mudiadau gwirfoddol
- gyda mwy o ymwybyddiaeth o’r ddeddfwriaeth sy’n tanseilio diogelu yng Nghymru
- yn gwybod i ble i ddod o hyd i amrywiaeth ehangach o adnoddau diogelu.
I bwy mae’r sesiwn:
Mae’r cwrs hwn yn arbennig o briodol ar gyfer staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr mudiadau’r sector gwirfoddol sydd eisiau cynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ddiogelu. Gellir hefyd ei ddefnyddio i ategu hyfforddiant wyneb yn wyneb neu fel sesiwn loywi.
Bydd y cwrs yn cynnwys ychydig o waith paratoadol a chwis ar y diwedd i brofi gwybodaeth cyfranogwyr. Bydd tystysgrif presenoldeb yn cael ei darparu.