ACE: Adeiladu gwydnwch yn wyneb profiadau niweidiol yn ystod plentyndod
Aelodau £65 | Ddim yn aelod £65
Dyddiad: 13-09-2022 | Lleoliad: Ar-lein |
Trefnydd: Plant yng Nghymru |
9:30am – 12:30pm
Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â diddordeb mewn meithrin dealltwriaeth o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs).
Nodau:
- Archwilio ACEs
- Cael gwell dealltwriaeth o'u heffaith ar blant ac oedolion yn ddiweddarach mewn bywyd
- Cael gwell dealltwriaeth o gamddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl, cam-drin domestig a thrais a'u heffeithiau ar blant
- Archwilio plentyndod ‘da’
- Cynyddu gwybodaeth am wydnwch
- Bod â sgiliau a hyder i adeiladu gwydnwch gyda phlant a phobl ifanc.