Hyfforddiant ar gyfer Arweinydd Diogelu Dynodedig
Aelodau £220 | Ddim yn aelod £220
Dyddiad: 20-10-2022 | Lleoliad: Ar-lein |
Dyddiad Gorffen: 21-10-2022 | Trefnydd: Plant yng Nghymru |
9:30am – 4:00pm
Bydd y cwrs deuddydd hwn o fudd i’r rheini sy’n gweithredu yn y rôl Arweinydd Diogelu Dynodedig neu fydd yn cymryd y rôl fel dirprwy. Mae'n berthnasol i leoliadau amrywiol, megis ysgolion, gofal plant, gwasanaethau gwirfoddol a phreifat sy'n darparu gweithgareddau, dysgu a chefnogaeth i blant a theuluoedd.
Nodau:
- Deall pwrpas, pwysigrwydd a rôl yr Arweinydd Diogelu Dynodedig a beth mae’n ei olygu yn eich lleoliad
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth ac arweiniad perthnasol ar ddiogelu plant a phobl ifanc yng nghyd-destun Cymru a'r DU
- Archwilio rolau partneriaid diogelu yn y cyd-destun amlasiantaeth
- Deall y system statudol diogelu plant a disgwyliadau
- Archwilio y cysyniad ‘cam-drin ymddiriedaeth’ a bod yn effro i droseddau posib yn y sefydliad
- Deall sut mae gwerthoedd a chredoau yn effeithio ar ymatebion i ddiogelu
- Effaith emosiynol y gwaith
- Nodi mesurau diogelu hanfodol sydd eu hangen ar waith
- Asesu ac adrodd ar bryderon i'r gwasanaethau cymdeithasol
- Nodi rhwystrau ac ystyried atebion i rannu gwybodaeth
- Cadw cofnodion a chyfrinachedd da
- Amrywiaeth a bregusrwydd ychwanegol i rai plant
- Cynnwys staff a gwirfoddolwyr yn eu cyfrifoldebau diogelu
- Cynllunio gweithredu ar gyfer datblygu rôl yr Arweinydd Dynodedig Diogelu.