Mae'r Diwrnod chwarae yn ddathliad blynyddol yn y DU o hawl plant i chwarae, a gaiff ei gynnal bob blwyddyn ar y dydd Mercher cyntaf ym mis Awst. Bob blwyddyn ceir thema sy'n amlygu testun neu agwedd benodol o chwarae plant.
Mae Chwarae Cymru'n gweld y Diwrnod chwarae fel cyfle i gynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd chwarae plant a'r angen am ddarpariaeth chwarae o safon, bob dydd o'r flwyddyn ym mhob cwr o Gymru. Ar y diwrnod Chwarae yn y gorffennol rydym wedi rhoi cyfweliadau radio a theledu a darparu datganiadau i'r wasg ar gyfer papurau newydd a chylchgronau.
Diwrnod Chwarae yw'r dathliad blynyddol o hawl plant i chware ac fe'i cydlynir gan Chwarae Cymru, Play England, Play Scotland a PlayBoard Northern Ireland.
Cynhelir Diwrnod Chwarae 2022 ar Ddydd Mercher 3 Awst.
Thema Diwrnod Chwarae 2022
Y thema ar gyfer Diwrnod Chwarae eleni yw ... Chwarae yw'r nod – creu cyfleoedd chwarae ar gyfer pob plentyn.
Mae’r thema eleni’n anelu i bwysleisio bod chwarae ar gyfer pawb. Mae chwarae’n digwydd ym mhobman, bob dydd, ac mae’n hawl i bob plentyn a pherson ifanc. Mae Diwrnod Chwarae’n annog teuluoedd, cymunedau, a sefydliadau bach a mawr, i ystyried sut allan nhw greu gwell cyfleoedd i bob plentyn chwarae. Yn dilyn yr holl heriau y mae plant a phobl ifanc wedi eu hwynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf oherwydd y pandemig Covid-19, mae chwarae’n bwysicach nag erioed.
- Mae chwarae yn hanfodol ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc.
- Mae chwarae yn caniatáu i blant a phobl ifanc wneud ffrindiau, datblygu perthnasau, a chael hwyl gyda’i gilydd.
- Mae chwarae yn galluogi plant a phobl ifanc i deimlo cysylltiad gyda’u cymunedau, gan arwain at gymunedau hapusach i bawb.
- Mae gan chwarae rôl bwysig wrth helpu plant a phobl ifanc i ymdopi gyda straen a phryder, delio gyda heriau, a gwneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd o’u hamgylch.
Rydym yn galw am fwy o chwarae, gwell chwarae, bob dydd!
Wedi dwy flynedd o gyfyngiadau ar hyd a lled y DU, rydym yn edrych ymlaen at glywed am y ffyrdd cyffrous yr ydych yn bwriadu dathlu Diwrnod Chwarae eleni. Ymwelwch â gwefan Diwrnod Chwarae i rannu eich digwyddiadau.
Am y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrch eleni, dilynwch ni ar Facebook a Twitter a rhannwch eich cynlluniau gyda ni trwy ddefnyddio’r hashnodau #DiwrnodChwarae2022 a #ChwaraeYwrNod.
Cymryd rhan
Gallwch gymryd rhan yn y Diwrnod Chwarae trwy:
- Helpu i ledaenu’r gair am Diwrnod Chwarae – postiwch, trydarwch, blogiwch! Helpu i ledaenu’r gair am hawl ac angen plant i chwarae – #DiwrnodChwarae2022 a #ChwaraeYwrNod.
- Gofrestru i fod yn gefnogwr Diwrnod chwarae – os yw eich sefydliad chi’n frwd dros chwarae plant a phobl ifainc, beth am fod yn gefnogwr ymgyrch?
- Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol – Facebook a Twitter.