Dyddiad i'r dyddiadur - cynhelir Diwrnod Chwarae 2019 Ddydd Mercher 7 Awst.
Mae Diwrnod Chwarae yn ddathliad blynyddol yn y DU o hawl plant i chwarae.
Mae Chwarae Cymru'n gweld y Diwrnod chwarae fel cyfle i gynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd chwarae plant a'r angen am ddarpariaeth chwarae o safon, bob dydd o'r flwyddyn ym mhob cwr o Gymru.
Mae'r ymgyrch Diwrnod Chwarae yn cael ei gydlynu gan Play England, Play Scotland, PlayBoard Northern Ireland a Chwarae Cymru.