Mae’r Child in the City Foundation, Cyngor Dinas Dulyn ac Adran Gwyddelig Materion Plant ac Ieuenctid yn galw am bapurau ar gyfer y 10th Child in the City World Conference, a fydd yn digwydd yn Nulyn 5-7 Hydref 2022.
Gwneud Cysylltiadau yw thema’r gynhadledd, gyda ffocws ar y pump pwnc canlynol:
- Cysylltu’r presennol â’r gorffennol
- Cysylltu gwyrdd a chwarae
- Cysylltu iechyd (meddyliol) plant a chwarae
- Cysylltu cyfranogaeth plant i bolisïau trefol
- Ail-gysylltu plant i gymdeithas yn ystod/ar ôl COVID-19.
Os hoffech chi gyflwyno eich arbenigedd, prosiect neu ymchwil – drwy boster neu gyflwyniad sleidiau – anfonwch grynodeb hyd at 300 gair.
Dyddiad cau ar gyfer anfon crynodeb: 28 Chwefror 2022