Nod Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yw helpu arweinwyr yn y trydydd sector i ddatblygu eu sgiliau arwain entrepreneuraidd. Mae’r dyfarniad blynyddol yn rhoi £2,500 i gefnogi unigolyn yng Nghymru i ddod yn arweinydd gwell.
Gallai hyn fod yn rhywun sy’n gweithio mewn menter gymdeithasol sydd â syniad i ddatblygu eu gweithgaredd masnachu, neu arweinydd yn y sector sydd am gynhyrchu incwm drwy fasnachu am y tro cyntaf. Gellid, er enghraifft, ddefnyddio’r arian:
- ar gwrs astudio penodol
- i ariannu ymweliad, dramor o bosib, i weld y ffordd y mae eraill yn gweithio
- i symud y buddiolwr a’i fudiad ymlaen.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 14 Chwefror 2022