
Yn ystod 2021 rydym wedi cynhyrchu a dosbarthu amrywiaeth o gyhoeddiadau newydd a rhai sydd wedi eu ddiweddaru i gefnogi a hysbysu’r rheiny sydd â diddordeb mewn, neu gyfrifoldeb am chwarae plant. Dyma grynodeb o’r cyhoeddiadau – mae bob un ohonynt ar gael i’w lawrlwytho am ddim.
Canllawiau gwaith chwarae
Plentyndod, chwarae a’r Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae’r canllaw hwn yn edrych ar rai o’r damcaniaethau sy’n dylanwadu ar y modd mae oedolion yn deall plant, rôl chwarae a phlentyndod, yn ogystal ag egwyddorion gweithio gyda phlant sy’n chwarae. Mae’n archwilio rhai o’r syniadau, y cysyniadau a’r damcaniaethau datblygiad plant a phlentyndod sydd wedi dylanwadu, ac sy’n dal i ddylanwadu, ar ddealltwriaeth o blant a’u chwarae.
Ymarfer gwaith chwarae
Mae’r canllaw hwn yn rhoi cyfle i’r bobl hynny sy’n newydd i waith chwarae i archwilio rhai o’r syniadau, y cysyniadau a’r fframweithiau, a’r defnydd ymarferol o ddulliau ac agweddau sydd wrth galon arfer gwaith chwarae. Mae’n ystyried cysyniadau fel fforddiannau a’r amgylchedd affeithiol, sy’n galluogi pobl sy’n arfer gwaith chwarae i ddynodi, creu neu gyfoethogi mannau ar gyfer chwarae.
Datblygu a rheoli prosiect gwaith chwarae
Mae’r canllaw hwn yn canolbwyntio ar elfennau ymarferol datblygu a rheoli darpariaeth gwaith chwarae o ddydd-i-ddydd. Mae’n cael ei danategu gan yr Egwyddorion Gwaith Chwarae ac mae wedi ei gynhyrchu ar gyfer y bobl hynny sydd â dealltwriaeth dda o ddamcaniaethau ac arfer chwarae a gwaith chwarae.
Rheoli gweithwyr chwarae a gweithio gydag oedolion eraill
Mae’r canllaw hwn yn canolbwyntio ar ddyletswyddau rheolaethol uwch-weithwyr chwarae. Mae’n cynnig gwybodaeth ymarferol am dderbyn cyfrifoldebau rheoli, cefnogi datblygiad proffesiynol, gweithio gydag oedolion eraill a delio gyda gwrthdaro, beirniadaeth ac achwynion.
Mae’r gyfres hon o bedwar canllaw gwaith chwarae yn gasgliad o adnoddau ar gyfer pawb sy’n gweithio gyda phlant sy’n chwarae. Rydym wedi gweithio gyda Ludicology i gynhyrchu’r canllawiau.
Pecyn cymorth
Datblygu a rheoli mannau chwarae
Mae’r pecyn cymorth wedi ei ddylunio ar gyfer unrhyw un sy’n derbyn cyfrifoldeb am reoli neu ddatblygu man chwarae mewn cymuned. Bwriedir i’r argraffiad hwn o’r pecyn cymorth, a olygwyd gan Ludicology, fod yn ffynhonnell cefnogaeth a chyfeirio unigol ar gyfer grwpiau cymunedol, i lywio eu ffordd trwy rai o’r heriau o reoli neu ddatblygu man chwarae.
Cylchgrawn Chwarae dros Gymru
Lle i chwarae tu allan
Rhifyn 57 (Gwanwyn 2021)
Mae’r rhifyn hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd mannau o safon dda i blant chwarae tu allan. Mae’n cynnwys erthyglau fel ‘Strydoedd, trefi a dinasoedd cyfeillgar at blant’ gan Tim Gill a ‘Creu mannau cynhwysol i chwarae’ gan Theresa Casey, yn ogystal â throsolwg o’r hyn sydd gan blant i’w ddweud am chwarae yng Nghymru.
Cadwch lygaid am rifyn y Gaeaf a fydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan yn y flwyddyn newydd.
Taflenni wybodaeth
Cyrchu pwerau therapiwtig chwarae: canllaw i weithwyr chwarae
Mae’r daflen wybodaeth hon, a ysgrifennwyd gan Maggie Fearn, yn archwilio’r hyn all gweithwyr chwarae ei wneud os nad yw plentyn yn gallu chwarae oherwydd eu bod yn teimlo’n bryderus, yn gofidio neu’n ofnus ynghylch y dyfodol. Mae wedi ei ddylunio i gefnogi gweithwyr chwarae mewn lleoliadau cymunedol i ddeall rhywfaint o sgiliau a syniadau chwarae therapiwtig.
Chwarae, amgueddfeydd a sefydliadau diwylliannol
Mae’r daflen wybodaeth hon, a ysgrifennwyd gan Charlotte Derry, yn anelu i gefnogi amgueddfeydd, orielau a sefydliadau diwylliannol sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd i ehangu eu dealltwriaeth o chwarae. Mae’n cynnig syniadau ar gyfer cynnwys chwarae yng ngwaith bob dydd a darpariaeth gwasanaeth y sector diwylliannol.
Pwyso a mesur risgiau a buddiannau mewn chwarae plant
Mae’r daflen wybodaeth hon, a ysgrifennwyd gan Tim Gill, yn anelu i amlinellu pam fod angen agwedd gytbwys, feddylgar tuag at reoli risgiau mewn chwarae plant. Mae’n cynnig trosolwg o asesu risg-budd (ARB), sy’n cael ei derbyn yn gyffredinol fel agwedd addas.
Darpariaeth chwarae: cyflawni hawliau plant anabl
Mae’r daflen wybodaeth hon, a ysgrifennwyd gan Theresa Casey, yn cynnig gwybodaeth ac awgrymiadau ymarferol gyda’r nod o greu cyfleoedd i blant anabl gyflawni eu hawl i chwarae. Mae wedi ei hangori gan agwedd hawliau dynol plant a’r Egwyddorion Gwaith Chwarae.
Gwneud digwyddiadau cymunedol yn chwareus
Mae’r daflen wybodaeth hon yn anelu i gefnogi cymunedau i wneud eu digwyddiadau lleol yn fwy chwareus ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau. Mae’n cynnig syniadau ar gyfer creu profiad chwareus a syniadau chwarae syml a rhad.
Ffocws ar chwarae
Cydnabod a deall pwysigrwydd darpariaeth gwaith chwarae mynediad agored yn y gymuned
Mae rhifyn hwn yn canolbwyntio ar gydnabod a deall pwysigrwydd darpariaeth gwaith chwarae mynediad agored yn y gymuned. Mae’n archwilio sut mae chwarae’n cyfrannu at wytnwch a lles plant a sut mae darpariaeth gwaith chwarae mynediad agored yn cynnig cymorth i bob plentyn a’u rhieni.
Cynghorau tref a chymuned
Mae’r rhifyn hwn yn cynnig gwybodaeth ar sut i gefnogi cyfleoedd gwell i blant chwarae yn eu cymunedau. Mae cynghorau tref a chymuned, ac felly gynghorwyr hefyd, yng Nghymru mewn sefyllfa dda i fod yn hyrwyddwyr chwarae ar ran y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu ac yn byw ynddynt.
Cefnogi’r hawl i chwarae mewn ysgolion
Mae’r rhifyn hwn yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad ar gyfer penaethiaid, athrawon a llywodraethwyr ysgolion. Mae’n trafod ffyrdd y gall ysgolion hyrwyddo chwarae wrth i ni barhau i helpu plant i ddelio â’r ansicrwydd maent wedi ei wynebu.
Amgueddfeydd a’r sector diwylliant
Mae’r rhifyn hwn yn darparu gwybodaeth am sut all y sector diwylliannol gefnogi a dylanwadu ar gyfleoedd i blant a phlant yn eu harddegau chwarae. Mae wedi ei anelu at reolwyr ac arweinyddion strategol er mwyn adeiladu ar y ddealltwriaeth a’r diddordeb cynyddol i gefnogi chwarae plant yn y sector diwylliannol.
Awgrymiadau anhygoel
Dathlu Diwrnod Chwarae
Mae Diwrnod Chwarae yn ddathliad blynyddol yn y DU o hawl plant i chwarae. Er mwyn helpu lleoliadau sy’n gweithio gyda phlant i neilltuo’r diwrnod ar gyfer chwarae, rydym wedi datblygu rhestr o awgrymiadau anhygoel ar gyfer Diwrnod Chwarae chwareus. Mae’n cynnig awgrymiadau ymarferol ar gyfer rhoi digon o amser, lle a chaniatâd i blant chwarae.
Dod o hyd i ddarparwr hyfforddiant gwaith chwarae
Mae’r pandemig COVID-19 wedi newid sut y byddwn yn cael mynediad at hyfforddiant a chymwysterau ond ’dyw hynny ddim yn golygu y dylai gweithwyr proffesiynol fodloni ar lai. Mae’r awgrymiadau anhygoel hyn sydd wedi eu diweddaru wedi eu dylunio i gefnogi gweithwyr chwarae a gweithwyr proffesiynol eraill sydd ynghlwm â chwarae plant i wneud y gorau o’u hamser a’u cyllideb hyfforddiant.
Adroddiad effaith
Adroddiad effaith Chwarae Cymru 2020-2021
Mae’r adroddiad effaith yn cynnig trosolwg o waith a chyflawniadau Chwarae Cymru dros y flwyddyn 2020-2021 wrth ymgyrchu dros chwarae plant. Mae’n cynnwys gwybodaeth am sut yr ydym wedi addasu ein gwaith i gefnogi’r sector, mewn ymateb i COVID-19, ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd i hyrwyddo’r hawl i chwarae ymhellach a chomisiynu a chyhoeddi ymchwil i hysbysu ein gwaith.